43 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono.
44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono.
45 Yr alltud, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono.
46 Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o'r cig allan o'r tŷ; ac na thorrwch asgwrn ohono.
47 Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny.
48 A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono.
49 Yr un gyfraith fydd i'r priodor, ac i'r dieithr a arhoso yn eich mysg.