47 Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny.
48 A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono.
49 Yr un gyfraith fydd i'r priodor, ac i'r dieithr a arhoso yn eich mysg.
50 Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.
51 Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.