5 Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o'r defaid, neu o'r geifr, y cymerwch ef.
6 A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos.
7 A chymerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt.
8 A'r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef.
9 Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda'i draed a'i ymysgaroedd.
10 Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a'r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11 Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.