16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion.
18 A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw'r Arglwydd, pan y'm gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.
19 Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hôl hwynt.
20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a'r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.