1 Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr.
2 Fy nerth a'm cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a'i dyrchafaf ef.
3 Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw.
4 Efe a daflodd gerbydau Pharo a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.
5 Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.
6 Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.
7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.