11 Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
12 Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.
13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.
14 Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.
15 Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.
16 Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.
17 Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo.