18 Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd.
19 Oherwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr; a'r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.
20 A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau.
21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.
22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23 A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara.
24 A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?