7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.
8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr.
9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.
10 Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.
11 Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
12 Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.
13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.