12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a'r bore y'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a'r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.
14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â'r llwydrew ar y ddaear.
15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i'w fwyta.
16 Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i'r rhai fyddant yn ei bebyll.
17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.
18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.