16 Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i'r rhai fyddant yn ei bebyll.
17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.
18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.
19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.
20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.
21 A hwy a'i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22 Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.