18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.
19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.
20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.
21 A hwy a'i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22 Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i'r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.
24 A hwy a'i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.