25 A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i'r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw.
26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.
27 Eto rhai o'r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.
28 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?
29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o'i le y seithfed dydd.
30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.
31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrllad o fêl.