26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.
27 Eto rhai o'r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.
28 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?
29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o'i le y seithfed dydd.
30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.
31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrllad o fêl.
32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i'w gadw i'ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y'ch dygais allan o wlad yr Aifft.