33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o'r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i'ch cenedlaethau.
34 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.
35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.
36 A'r omer ydoedd ddegfed ran effa.