7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i'n herbyn?
8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i'w fwyta, a'r bore fara eich gwala; am glywed o'r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.
9 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.
10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua'r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl.
11 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a'r bore y'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a'r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.