13 A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
14 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.
15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi.
16 Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r Arglwydd, y bydd i'r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.