10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.
11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.
13 A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.
14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?
15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw.
16 Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a'i gyfreithiau.