13 A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.
14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?
15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw.
16 Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a'i gyfreithiau.
17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.
18 Tydi a lwyr ddiffygi, a'r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw'r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.
19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a'th gynghoraf di, a bydd Duw gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.