2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,)
3 A'i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol.
4 Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.
5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â'i feibion a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw.
6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a'th wraig a'i dau fab gyda hi.
7 A Moses a aeth allan i gyfarfod â'i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a'i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i'w gilydd: a daethant i'r babell.
8 A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i'r Eifftiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r Arglwydd hwynt.