12 A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.
13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.
14 A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.
15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.
16 A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.
17 A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre'r mynydd.
18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r Arglwydd arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.