18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r Arglwydd arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.
19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais.
20 A'r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i'r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt.
22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i'r Arglwydd ruthro arnynt.
23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.
24 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.