9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r Arglwydd.
10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,
11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.
12 A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.
13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.
14 A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.
15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.