1 Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi.
2 A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.
3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon.
4 A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.