19 A hwy a ddywedasant, Eifftwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.
20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.
21 A bu Moses fodlon i drigo gyda'r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses.
22 A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.
23 Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.
24 A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob.
25 A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd a gydnabu â hwynt.