1 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,
2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear.