12 Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
13 Na ladd.
14 Na wna odineb.
15 Na ladrata.
16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaethferch, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.
18 A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.