13 Na ladd.
14 Na wna odineb.
15 Na ladrata.
16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaethferch, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.
18 A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.
19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.