22 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.
23 Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24 Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a'th offrymau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf.
25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.
26 Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i'm hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.