9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.
12 Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
13 Na ladd.
14 Na wna odineb.
15 Na ladrata.