21 Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.
22 Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i'th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.
23 Oherwydd fy angel a â o'th flaen di, ac a'th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u difethaf hwynt.
24 Nac ymgryma i'w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.
25 A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a'th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o'th fysg.
26 Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.
27 Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i'th holl elynion droi eu gwarrau atat.