26 Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.
27 Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i'th holl elynion droi eu gwarrau atat.
28 A mi a anfonaf gacwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, allan o'th flaen di.
29 Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.
30 O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu'r tir.
31 A gosodaf dy derfyn o'r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a'u gyrri hwynt allan o'th flaen.
32 Na wna amod â hwynt, nac â'u duwiau.