29 Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.
30 O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu'r tir.
31 A gosodaf dy derfyn o'r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a'u gyrri hwynt allan o'th flaen.
32 Na wna amod â hwynt, nac â'u duwiau.
33 Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i'm herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.