3 Na pharcha'r tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â'i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.
5 Os gweli asyn yr hwn a'th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â'i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef.
6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.
7 Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na'r gwirion na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.