5 Os gweli asyn yr hwn a'th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â'i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef.
6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.
7 Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na'r gwirion na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.
10 Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:
11 A'r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden.