8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.
10 Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:
11 A'r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden.
12 Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a'th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a'r dieithr ddyn, ei anadl ato.
13 Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.
14 Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi.