1 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a'r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.
5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i'r Arglwydd.
6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a'i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a'i darllenodd lle y clywai'r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.