1 Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
2 Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i'r holl lenni.
3 Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.
4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.