13 Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu acw, i'w orchuddio.
14 A gwna do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
15 A gwna i'r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.
16 Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.
17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau'r tabernacl.
18 A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.
19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.