17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau'r tabernacl.
18 A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.
19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,
21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau'r tabernacl, yn y ddau ystlys.