20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,
21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau'r tabernacl, yn y ddau ystlys.
24 A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.
25 A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,