25 A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
27 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tua'r gorllewin.
28 A'r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.
29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30 A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31 A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.