32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33 A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf.
34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.
35 A gosod y bwrdd o'r tu allan i'r wahanlen, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd ar y tu deau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du'r gogledd.
36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith.
37 A gwna i'r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.