4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.
5 Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.
6 Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â'r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.
7 A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8 Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.
9 A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len.
10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.