7 A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8 Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.
9 A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len.
10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.
11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma'r babell‐len, fel y byddo yn un.
12 A'r gweddill a fyddo dros ben o lenni'r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl;
13 Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu acw, i'w orchuddio.