1 Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a'i huchder o dri chufydd.
2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o'r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres.
3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.
5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.
6 A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.