10 A'i hugain colofn, a'u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a'u cylchau, fydd o arian.
11 Felly o du'r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a'u hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres; a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.
12 Ac i led y cynteddfa, o du'r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a'u morteisiau yn ddeg.
13 A lled y cynteddfa, tua'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.
14 Y llenni o'r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a'u morteisiau yn dair.
15 Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.
16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.