13 A lled y cynteddfa, tua'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.
14 Y llenni o'r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a'u morteisiau yn dair.
15 Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.
16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.
17 Holl golofnau'r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a'u pennau yn arian, a'u morteisiau yn bres.
18 Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a'i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a'u morteisiau o bres.
19 Holl lestri'r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.