3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.
5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.
6 A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.
7 A dod ei throsolion trwy'r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.
8 Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.
9 A gwna gynteddfa'r tabernacl ar y tu deau, tua'r deau: llenni'r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys.