1 A chymer Aaron dy frawd atat, a'i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron.
2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.
3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.
4 A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i'w feibion, i offeiriadu i mi.