21 A'r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.
22 A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.
23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg.
24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.
25 A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o'r tu blaen.
26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o'r tu mewn.
27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.